DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE

 

DYDDIAD

11 Medi 2023

 

GAN

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

 

Ynunol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, rwy’n rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE ar 26 Mehefin. Nid oeddwn yn gallu rhoi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarfod gan ei fod wedi cael ei alw ar fyr rybudd gan Lywodraeth y DU.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Leo Docherty AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ewrop yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Roedd Angus Robertson ASA, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant hefyd yn bresennol yn y cyfarfod. Roedd uwch swyddog o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon yn bresennol fel arsylwr.

Cynhaliwyd y cyfarfod i baratoi ar gyfer cyfarfodydd dilynol rhwng y DU a’r UE o Gyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, pan nad oeddwn yn bresennol.

Fe wnes i’r prif bwyntiau canlynol yng nghyfarfod mis Mehefin, a gafodd eu nodi:

·         dylid rhoi mwy o rybudd ar gyfer cyfarfodydd y grŵp Rhyngweinidogol hwn, yn unol â thelerau’r Adolygiad Rhynglywodraethol.

·         roedd ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar faterion rhoi Fframwaith Windsor ar waith yn parhau.

·         y gobaith yw y bydd cynnydd gyda’r UE ar Fframwaith Windsor yn datrys materion allweddol fel cysylltiad y DU â Horizon Europe.

·         o ran hawliau dinasyddion, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu ymgysylltiad cynharach, a mwy sylweddol, gan y Swyddfa Gartref.

Mabwysiadodd cyfarfod y Cyd-bwyllgor dilynol ddau benderfyniad ffurfiol ar fesurau glanweithiol a ffytoiechydol (bwydydd amaeth) a meddyginiaethau i roi Fframwaith Windsor ar waith. Mabwysiadodd benderfyniad hefyd i addasu agweddau ar gydlynu mecanweithiau nawdd cymdeithasol. Mae’r manylion wedi’u nodi yn y Datganiad ar y Cyd rhwng y DU a’r UE yma: Joint statement on the Withdrawal Agreement Joint Committee meeting, 3 July 2023(Saesneg yn Unig)

Mae cyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadaurhwng y DU a’r UE wedi’i drefnu ar gyfer 11 Medi, a fydd yn cael ei gadeirio gan Leo Docherty AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ewrop yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Nid oes agenda ffurfiol wedi’i gosod eto, ond rwy’n disgwyl iddi gynnwys trafodaeth ar weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a’r Cytundeb Ymadael, cyn cyfres o wahanol gyfarfodydd rhwng y DU a’r UE a fydd yn cael eu trefnu ar gyfer gweddill 2023.